15 Tachwedd 2023
Annwyl Jane,
Ysgrifennaf atoch yn dilyn ein hystyriaeth o lythyr a anfonwyd at y Pwyllgor ynghylch cymorth diwylliannol i Wcráin.
Mae bron ddwy flynedd wedi mynd heibio ers dechrau’r ymosodiad ar Wcráin. Yn y cyfnod hwnnw, mae Cymru wedi rhoi croeso cynnes i ffoaduriaid o Wcrain. Rydym yn ymwybodol, fodd bynnag, y bu newid yn lefelau’r cymorth a ddarperir. Byddwn yn ddiolchgar o gael:
§ Y wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy'n cael eu cymryd i gefnogi Wcráin;
§ Rhagor o wybodaeth am y cymorth a ddarperir i blant Wcrain i gynnal eu hiaith a'u diwylliant; ac
§ Y wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth a ddarperir i ffoaduriaid o Wcrain gan Lywodraeth Cymru.
Edrychaf ymlaen at gael eich ymateb maes o law.
Yn gywir iawn,
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.